Culfor Sunda

Oddi ar Wicipedia
Culfor Sunda
Mathculfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Môr Java Edit this on Wikidata
SirLampung, Banten Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Cyfesurynnau5.9703°S 105.7697°E Edit this on Wikidata
Map

Culfor rhwng ynysoedd Sumatera a Jawa yn Indonesia yw Culfor Sunda. Mae tua 200 km o hyd a 30 km o led yn y man culaf.

Ceir nifer o ynysoedd yn y culfor, yn cynnwys ynys a llosgfynydd Krakatau, lle bu ffrwydrad mawr yn 1883. Gyda Culfor Malacca, y culfor yma yw'r cysylltiad pwysicaf rhwng Môr De Tsieina a Chefnfor India, a cheir trafnidiaeth brysur trwyddo.