Banten
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau Indonesia yw Banten, weithiau Bantam. Mae'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o ynys Jawa. Roedd y boblogaeth yn 9,083,114 yn 2005. Y brifddinas yw dinas Banten.
Mae'r dalaith yn ffinio ar dalaith Gorllewin Jawa yn y dwyrain. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Fôr Jawa, yn y gorllewin ar Gulfor Sunda ac yn y de ar Gefnfor India. Ffurfiwyd talaith Banten o ran o dalaith Gorllewin Jawa yn 2000. Mae'n cynnwys Parc Cenedlaethol Ujung Kulon, sy'n Safle Treftadaeth y Byd