Hedd Wyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Am y ffilm o'r un enw gweler Hedd Wyn (ffilm)

Hedd Wyn
Hedd Wyn 01(a-dg).JPG
Ganwyd Ellis Humphrey Evans
13 Ionawr, 1887
Trawsfynydd, Gwynedd
Bu farw 31 Gorffennaf, 1917
Passchendaele, Fflandrys/Gwlad Belg
Man claddu Ypres, Gwlad Belg
Cenedligrwydd Cymro
Galwedigaeth Bardd
Gweithgar 1900au - 1917

Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 - 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ei fywyd a'i waith[golygu]

Roedd Hedd Wyn yn frodor o Drawsfynydd, yn yr hen Sir Feirionydd, lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o unarddeg o blant. Cafodd ei eni yma mwthyn Penlan a symudodd y teulu fferm Yr Ysgwrn pan oedd yn 4 mis oed. Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol gweithiodd gartref yn ar fferm ei dad. Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn ne Cymru.[1]

Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i awdl "Dyffryn" yn 1907. Dilynwyd hyn wrth iddo ennill cadeiriau yn Llanuwchllyn yn 1913, Pwllheli yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a Phontardawe yn 1915[1]. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac englynion i ddigwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd Ffestiniog ar 20 Awst, 1910.

Aeth yn filwr yn 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn Ionawr 1917. Treuliodd gyfnod byr yn ymarfer yn Litherland ger Lerpwl ac aeth i Fflandrys erbyn yr haf. Erbyn diwedd mis Gorffennaf, roedd Ellis a'r gatrawd ger Cefn Pilkem lle bu brwydr Passchendaele. Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Cefn Pilkem, rhan o Frwydr Passchendaele a elwir hefyd yn Drydedd Frwydr Ypres (Fflemeg: Ieper), ar 31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn.

Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penbedw 1917 am ei awdl "Yr Arwr". Bu Ellis yn gweithio ar yr awdl gan ei chwblhau erbyn tua chanol Gorffennaf 1917 pan oedd yntau yng Ngwlad Belg. Ar ddydd Iau, 6 Medi 1917, cyhoeddodd T. Gwynn Jones i'r dorf ym Mhafiliwn yr Eisteddfod mai bardd a oedd yn dwyn y ffugenw "Fleur-de-lis" oedd yn deilwng o ennill y gadair. Fodd bynnag roedd Ellis wedi cael ei ladd chwe wythnos ynghynt yn Ypres. Pan gyhoeddodd yr Archdderwydd Dyfed ei fod wedi'i ladd yn y frwydr honno gorchuddiwyd y gadair â llen ddu. Dyna pam y cyfeirir at yr eisteddfod honno fel "Eisteddfod y Gadair Ddu".

Cerflun goffa yn Nhrawsfynydd
Carreg fedd Hedd Wyn ym Mynwent Artillery Wood ger Ypres / Ieper

Y gadair[golygu]

Yn eironig ddigon, gwnaed y gadair gan ffoadur o'r enw Eugeen Vanfleteren a hannai o Wlad Belg. Treuliodd gyfnod o chwe mis yn ei chynhyrchu a cheir arni amrywiaeth o symbolau Celtaidd a Chymreig. Daethpwyd a'r gadair yn ôl i Drawsfynydd ar y trên ar 13 Medi, 1917 a chludwyd hi i'r Ysgwrn ar gart a cheffyl.

Ei gofio[golygu]

Ysgrifennodd y bardd Robert Williams Parry gyfres o englynion er cof amdano, sy'n dechrau gyda'r llinell "Y bardd trwm dan bridd tramor".

Codwyd cofgolofn iddo yng nghanol Trawsfynydd, a ddadorchuddiwyd gan ei fam yn 1923. Ar gerflun pres y gofgolofn mae'r englyn a ysgrifennodd Hedd Wyn am ei gyfaill a laddwyd ar faes y gâd.

Ei aberth nid â heibio - ei wyneb
Annwyl nid â'n ango
Er i'r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o.

Ffilm[golygu]

Prif erthygl: Hedd Wyn (ffilm).

Cynhyrchodd Paul Turner ffilm amdano o'r enw Hedd Wyn, ffilm a enwebwyd am Oscar yn y categori ffilm dramor orau yn 1992, gyda Huw Garmon yn chwarae y brif ran.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cerddi Hedd Wyn[golygu]

  • Cerddi'r Bugail, gol. J. J. Williams (1918) - casgliad o gerddi Hedd Wyn

Llyfrau ac erthyglau amdano[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Pamffled "Hedd Wyn". Llysednowain/Traws-Newid.

Dolenni allanol[golygu]