Hedd Wyn (ffilm)
| Cyfarwyddwr | Paul Turner |
|---|---|
| Ysgrifennwr | Alan Llwyd |
| Serennu | Huw Garmon |
| Dyddiad rhyddhau | 1992 |
| Amser rhedeg | 123 munud |
| Gwlad | Cymru[1] |
| Iaith | Cymraeg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn yw Hedd Wyn. Cafodd ei henwebu am Oscar ym 1994. Huw Garmon sy'n serennu fel Hedd Wyn. Fe'i cynhyrchwyd yng Nghymru gan gwmni Pendefig Cyf.[1]
Sgriptiwyd y ffilm gan y bardd Alan Llwyd, awdur y gyfrol Gwae fi fy myw, hunangofiant Hedd Wyn. Cafodd llawer o'r golygfeydd eu saethu ar leoliad yn ardal Trawsfynydd, de Gwynedd, pentref genedigol Hedd Wyn. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y golygfeydd swynol o gefn gwlad bugeiliol Meirion a'r golygfeydd cignoeth o erchylltra'r ymladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, lle lladdwyd Hedd Wyn, yn un o gryfderau'r ffilm.
Cynnwys [golygu]
Gellir rhannu'r ffilm i dair rhan:-
- Seremoni'r Cadeirio (sy'n para tua munud)
- 4 blynedd sy'n arwain hyd at y rhyfel (felly perthynas Lizzie, cwrdd a Mary Katherine, marwolaeth Gruff Penlan ayyb.)
- 3 awr o orwedd ar faes y rhyfel.
Mae gan Hedd Wyn nod, sef ennill y gadair yn yr eisteddfod. Ond mae yna rhwystrau'n ei wynebu; Merched (Lizzie, Mary Katherine a Jini), diffyg llonydd (am ei fod yn un o naw o blant), am nad oes addysg ganddo, a hefyd y rhyfel. Bu farw Elis tua bythefnos cyn yr eisteddfod felly nid oedd yn gwybod ei fod wedi ennill y gadair. Gellir gwadu ei fod wedi cyrraedd ei nod am ei fod wedi ennill y gadair a'i fod wedi cyrraedd ei gartref yn Nhrawsfynnydd, ond ar y llaw arall ni eisteddodd yn y gadair felly a llwyddodd i gyrraedd ei nod?