Llwybr Arfordir Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Diwedd y llwybr yng Nghas-gwent

Llwybr pellter hir sy'n dilyn holl arfordir Cymru yw Llwybr Arfordir Cymru. Mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.[1] Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012 ond mae'n defnyddio sawl llwybr hŷn megis Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae'n rhedeg trwy ddau Barc Cenedlaethol, tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.[2]

Cyfeiriadau [golygu]

Dolenni allanol [golygu]

Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato