Y Blitz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Blitz

Cyfnod o fomio parhaus gan Natsïaid yr Almaen rhwng y 7fed o Fedi 1940 a'r 10fed o Fai 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Blitz. Mae'r enw yn dalfyriad o'r gair Almaenig Blitzkrieg, neu "Rhyfel y Mellt". Er i'r "Blitz" daro nifer o drefi a dinasoedd ledled Prydain, dechrau'r cyfan oedd bomio Llundain am 57 noson yn olynol. Erbyn diwedd mis Mai 1941, lladdodd y bomiau dros 43,000 o sifiliaid, gyda dros hanner ohonynt yn Llundain. Dinistriwyd dros filiwn o dai yn Llundain yn unig.

Ond nid Llundain oedd yr unig ddinas i ddod o dan ymosodiadau'r Luftwaffe yn ystod y "blitz". Dioddefodd canolfannau milwrol a diwydiannol eraill ymosodiadau rheolaidd a nifer fawr o golledion. Roedd y trefi a'r dinasoedd yma'n cynnwys Abertawe a Chaerdydd yng Nghymru, Clydebank a Greenock yn yr Alban, Birmingham, Bryste, Coventry, Sheffield, Lerpwl, Hull, Manceinion, Portsmouth, Plymouth, Nottingham a Southampton yn Lloegr, a Belffast yng Ngogledd Iwerddon,.

Ni lwyddoddd yr ymosodiadau yn eu nod i chwalu morál Gweledydd Prydain i ildio. Erbyn mis Mai 1941, roedd y bygythiad go iawn o'r Almaen yn ceisio meddiannu'r DU wedi pasio a chanolbwyntiodd Hitler ar ddwyrain Ewrop. Er nad oedd yr Almaen wedi llwyddo i fomio Prydain eto ar raddfa mor eang, parhaodd i fomio mewn ymosodiadau llai trwy gydol y rhyfel, gan gynyddu'r nifer o sifiliaid a laddwyd i 51,509. Roedd datblygiad y bomiau hedfan di-beilot a'r rocedi V-2 ym 1944, wedi galluogi'r Almaen i ymosod ar Lundain unwaith eto gan ddefnyddio arfau a daniwyd ar gyfandir Ewrop. Yn gyfangwbl, lladdodd yr arfau V 8,938 o drigolion Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Cyflwyniad[golygu]

Ar ôl yr ymladd yn Ffrainc, dechreuodd yr hyn a elwir yn Frwydr Prydain ym mis Gorffennaf 1940. O fis Gorffennaf tan fis Medi, ymosododd y Luftwaffe ar Reolaeth Frwydro'r RAF er mwyn ceisio cael rhagoriaeth ar y cynghreiriaid cyn iddynt geisio meddiannu tir. Roedd hyn yn cynnwys bomio meysydd awyr er mwyn cael gwared ar allu'r Rheolwyr Brwydro i'w hatal rhag meddiannu'r tir. Ar yr un pryd, cynhaliwyd ymosodiadau ar y diwydiant awyrennau er mwyn rhwystro Prydain rhag adnewyddu eu hadnoddau, ond roedd rhain yn aflwyddiannus; roedd newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Beaverbrook wedi cynyddu effeithiolrwydd cyflymder cynhyrchu arfau ac offer. Allosodwyd peiriannau ar gyflymder o dair gwaith yn gynt nag y credai'r Almaenwyr. Roedd y pwysau i ddod o hyd i beilotiaid newydd yn fwy dwys, ac yn y pen draw defnyddiwyd peilotiaid o Wlad Pwyl, Tsiecoslofacia, Ffrainc a gwledydd eraill a oedd wedi'u meddiannu i frwydro ar flaen y gad.

Ar ddiwedd mis Awst 1940, cyn y dyddiad a gysylltir yn draddodiadol gyda deechrau'r blitz, ymosododd y Luftwaffe ar dargedau diwydiannol yn Birmingham a Lerpwl. Gwelwyd cynnydd yn y cyrchoedd bomio nos o ganlyniad i'r niferoedd uchel o golledion a wnaed i'r awyrennau bomio Almaenig yn ystod y dydd. Er i'r cyrchoedd yma frawychu'r boblogaeth, gwnaeth y bobl yn fwy penderfynol o faeddu'r Blaid Natsiaidd.

Yn ystod cyrch ar Borthladd y Tafwys ar y 24ain o Awst, hedfanodd rai awyrennau Almaenig dros Lundain, gan ollwng bomiau ar ardaloedd ddwyreinol a gogledd-ddwyrain y ddinas, yn cynnwys Bethnal Green, Hackney, Islington, Tottenham a Finchley. Arweiniodd hyn i Brydain yn trefnu cyrch ar Berlin dros y nosweithiau canlynol, gyda bomiau'n glanio yn Kreuzberg a Wedding, gan achosi 10 marwolaeth. Dywedir fod Hitler yn gandryll ac ar y 5ed o Fedi, ar gais uwch-reolwyr y Luftwaffe, rhoddodd gyfarwyddyd i gael "disruptive attacks on the population and air defences of major British cities, including London, by day and night". Dechreuodd y Luftwaffe ymosodiadau dydd a nos ar ddinasoedd Prydeinig, gan ganolbwyntio ar Lundain.

Cyn dechrau'r Blitz, gwnaed amcangyfrifon erchyll am y nifer o bobl a fyddai'n cael eu lladd gan ymgyrch fomio'r Almaenwyr. Comisiynodd y Gweinyddiaeth Iechyd adroddiad yng ngwanwyn 1939, yn amcangyfrif y byddai 600,000 o farwolaethau a 1,200,000 o anafiadau yn ystod chwe mis cyntaf ymosodiadau'r Luftwaffe.[1] Sylweddodlwyd yn ddiweddarach fod y niferoedd hyn wedi cael eu gor-ddweud am eu bod yn seiliedig ar y ddamcaniaeth anghywir am y nifer o awyrennau bomio Almaenig a oedd ar gael a'r nifer o bobl a fyddai'n cael eu hanafu neu eu lladd gan bob bom. Fodd bynnag, arweiniodd y cyrchoedd bomio at dros 650,000 o blant yn cael eu symud i'r wlad i fyw.

Adeiladau a ddifrodwyd neu a ddinistrwyd[golygu]

Dolenni Allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]