Kreuzberg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kreuzberg Engelbecken

Un o ardaloedd mwyaf hysbys Berlin yw Kreuzberg, sydd bellach, ers 2001, yn rhan o fwrdeisdref gyfunol Friedrichshain-Kreuzberg. Fe'i gelwir yn lleol yn X-Berg.

Trosolwg[golygu]

Mae'r ardal yn adnabyddus am ei chyfran uchel iawn o fewnfudwyr— cenhedlaeth gyntaf ac ail genhedlaeth ill dau— gyda'r mwyafrif ohonynt o dras Tyrcaidd. Yn 2006 nad oedd 31.6% o boblogaeth Kreuzberg yn dal dinasyddiaeth Almaenig. Mae'n adnabyddus hefyd am ei thraddodiad radical, arloesol a bohemaidd sydd yn parhau hyd heddiw, waeth yr adfwyio diweddar a mewnfudo pobl ariannog a ddaeth yn ei sgil.