Blitz Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ymgyrch fomio a wnaed gan Luftwaffe Natsiaid yr Almaen ar ddinas Abertawe rhwng 19 a 21 Chwefror 1941 oedd Blitz Abertawe.

Dewiswyd Abertawe fel targed addas oherwydd ei phwysigrwydd fel porthladd a'i dociau ac oherwydd y purfeydd olew cyfagos. Roedd y ddinas hefyd yn bwysig oherwydd y diwydiant copr a welwyd yno. Roedd dinistrio'r ddinas yn rhan allweddol o ymgyrchoedd bomio strategol y Natsiaid gyda'r nod o rwystro allforio glo a chwalu hyder y dinasyddion a'r gwasanaethau brys.

Yr ymosodiadau[golygu]

Gwnaed y cyrch cyntaf ar Abertawe yn gynnar ar y 27 Mehefin 1940, am 3.30 yb a dyma oedd y cyntaf o 44 ymosodiad gwahanol. Fodd bynnag, rhwng 19-21 Chwefror 1941 gwelwyd y 'blitz tair noson' pan ollyngwyd rhwng 30,000 a 56,000[1] o ddyfeisiadau tân a rhwng 800[2] i 1273[1] o fomiau ffrwydradau uchel ar y ddinas. Ar y noson olaf o'r 'blitz tair noson', seiniodd seirenau'r llochesi am 7.50 yh a pharhaodd y cyrch am bump awr. Gollyngwyd bomiau llosg yn ogystal â ffrwydradau ar ddinas Abertawe ac roedd canol y ddinas yn wenfflam. Ymestynnai'r fflamau o Fryn Clyn i'r dociau.[3] Lladdwyd 227 o bobl, gyda 37 ohonynt yn iau nag 16 oed.[4] Hefyd anafwyd 400 o drigolion y ddinas y nosweithiau hynny ac roedd modd gweld y fflamau 80 milltir i ffwrdd yn Abergwaun, Dyfnaint a Chernyw.[4]

Tarwyd yr ysgol ramadeg a adeiladwyd ar Fryn Mount Pleasant ym 1851, ac lle yr astudiodd Dylan Thomas, Roy Jenkins a Bryan Phillips a gwnaed difrod mawr iddi.[5] Fodd bynnag goroesodd labordai, gweithdai a champfa'r ysgol ac, yn unol ag agwedd y cyfnod, parhawyd i addysgu'r disgybliion hŷn gyda ddefnyddio ystafelloedd a oedd yn nhŷ'r prifathro. Ad-leolwyd y disgyblion iau i adeilad yr ysgol ar gyfer pobl 'mud a byddar', a oedd wedi symud eu disgyblion i'r wlad. Parhaodd y trefniant hwn tan 1949. Y prifathro, J.Gray Morgan a fu'n bennaf gyfrifol am yr ymdrechion i barhau gyda'r addysg. Yn ogystal â hyn, dinistriwyd 850 o adeiladau (575 o fusnesau a 282 o dai[6] a difrodwyd 11,000 o adeiladau eraill. Roedd nifer o adeiladau mwyaf eiconig y ddinas yn adfeilion gan gynnwys Eglwys y Santes Fair, siop Ben Evans a'r farchnad Fictorianaidd. Fodd bynnag, ni ddinistriwyd rhai o adeiladau hynaf Abertawe megis y castell, amgueddfa'r ddinas, Oriel Gelf Glynn Vivian ond dinistriwyd lawer o'r hen ddinas.[3]

Sylwadau gan lygaid-dystion[golygu]

Roedd Dylan Thomas yn Abertawe yn ystod y Blitz a phan welodd y dinistr a ddioddefodd y ddinas, dywedodd "Our Swansea is dead." Ysgrifennodd Richard Burton a oedd yn ei arddegau ar y pryd ac a drigai ym Port Talbot yn ei ddyddiaduron fod Abertawe'n "llosgi".[7]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Swansea in the blitz. Gwefan Dinas a Sir Abertawe. Adalwyd 20-02-2011
  2. Survivors remember horror of 3-day blitz Thisisissouthwales.co.uk. 23-06-2010. Adalwyd ar 20-02-2011
  3. 3.0 3.1 City marks 70th anniversary of Swansea Blitz. Wales Online. 05-02-2011. Adalwyd ar 20-02-2011
  4. 4.0 4.1 Lost diaries of the Swansea blitz revealed; 20-02-2011
  5. Swansea Museum seeks blitz stories for new DVD WalesOnline. 26-01-2011. Adalwyd ar 20-02-2011
  6. Eyewitness accounts of the ravages of the Swansea blitz. WalesOnline. 19-02-2011. Adalwyd ar 20-02-2011
  7. Looking back at the Swansea blitz of 1941. WalesOnline. 15-01-2011. Adalwyd ar 20-02-2011