Fforest Ddu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad y Fforest Ddu

Ardal o fynyddoedd coediog yn ne-orllewin yr Almaen yw'r Fforest Ddu[1] (Almaeneg: Schwarzwald). Yr hen enw Lladin ar yr ardal oedd Abnoba. Saif yn nhalaith Baden-Württemberg.

Mae'r ardal yn ymestyn o'r Hochrhein yn y de hyd Kraichgau yn y gogledd. Y copa uchaf yw Feldberg (1,493 medr). Ceir tarddle afon Donaw yma, lle mae afonydd Brigach a Breg yn uno i ffurfio Afon Donaw.

Golygfa o gopa mynydd Teisenkopf yn y Fforest Ddu

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 48.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.