San Gimignano
Oddi ar Wicipedia
Tref yng nghanolbarth yr Eidal yw San Gimignano. Saif yn nhalaith Siena a rhanbarth Toscana. Mae'n adnabyddus am ei chasgliad nodedig o bensaernïaeth ganoloesol. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 7,105.
Y nodwedd fwyaf arbennig yn mhensaernïaeth San Gimignano yw'r tyrrau sy'n dyddio o'r 12fed a'r 13eg ganrif, 13 ohonynt i gyd. Adeiladwyd y rhain gan deuluoedd cyfoethog, yn cystadlu a'i gilydd. Ar un adeg, roedd gan y dref tua 70 o'r tyrrau hyn.
Yn 1990, dynodwyd canol hanesyddol y dref yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.