Helmut Kohl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Helmut Kohl

Gwleidydd Almaenig yw Helmut Josef Michael Kohl (ganed 3 Ebrill 1930). Roedd yn Ganghellor yr Almaen o 1982 hyd 1998, yn y cyfnod pan ad-unwyd yr Almaen.

Ganed ef yn Ludwigshafen am Rhein, i deulu Catholig. Bu farw ei frawd hynaf yn yr Ail Ryfel Byd. Yn 1950, aeth i astudio'r gyfraith yn Frankfurt am Main, yna yn 1951 i Heidelberg, lle newidiodd ei gwrs i astudio busnes.

Ymunodd a plaid canol-dde y CDU, a daeth yn arweinydd y blaid yn Rheinland-Pfalz ac yn brif weinidog y dalaith. Yn 1973, daeth yn arweinydd y CDU yn genedlaethol. Yn etholiad 1976, collodd i Helmut Schmidt o blaid yr SPD, er iddo gael 48% o'r bleidlais. Daeth yn Ganghellor ar 1 Hydref 1980.

Roedd yn gredwr cryf mewn undeb Ewropeaidd, a sefydlodd berthynas agos a François Mitterrand, arlywydd Ffrainc. Ar 9 Tachwedd 1989, syrthiodd Mur Berlin. Roedd cryn wrthwynebiad yn rhai o wledydd Ewrop i ad-uno'r Almaen, ond llwyddodd Kohl i'w perswadio.

Collodd etholiad 1998 i'r SDU dan Gerhard Schröder, mewn cynghrair a'r Blaid Werdd, ac ymddiswyddodd fel arweinydd y CDU hefyd.

Rhagflaenydd:
Helmut Schmidt
Canghellor yr Almaen
19821998
Olynydd:
Gerhard Schröder