Rhaeadr y Rhein
Oddi ar Wicipedia
Rhaeadrau ar afon Rhein yn y Swistir yw Rhaeadr y Rhein (Almaeneg: Rheinfall). Dyma'r rhaeadr mwyaf yn Ewrop.
Saif y rhaeadrau ger tref Schaffhausen yng ngogledd y Swistir, heb fod ymhell o'r ffîn a'r Almaen. Maent yn 150 m (450 troedfedd) o led a 23 m (75 troedfedd) o uchder, ac yn atyniad pwysig i dwristiaid.