Afon Noord

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Noord (glas)

Afon yn yr Iseldiroedd yw afon Noord. Mae'n rhan o'r rhwydwaith cynhleth o afonydd a chamlesi sy'n ffurfio delta afon Rhein ac afon Maas.

Dechreua'r Noord ger dinas Dordrecht, lle mae'r Beneden Merwede yn ymrannu'n ddau ran, yr Oude Maas a'r Noord. Ger Ridderkerk a Kinderdijk mae'n ymuno ag afon Lek, i ffurfio afon y Nieuwe Maas. Afon fer ydyw, rhyw 9 km o hyd, ac mae'r llanw'n effeithio arni.