Afon IJssel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Afon IJssel

Afon yn yr Iseldiroedd yw Afon IJssel. Mae'n un o ganghennau Afon Rhein, sy'n ymrannu yn dair cangen fawr yn fuan ar ôl croesi'r ffîn rhwng yr Almaen a'r Iseldiroedd. Y ddwy gangen arall yw'r Nederrijn ac Afon Waal.

Dechreua Afon IJssel ger Westervoort, i'r dwyrain o ddinas Arnhem, ac mae'n llifo trwy daleithiau Gelderland ac Overijssel cyn llifo i mewn i'r IJsselmeer. Llyn yw hwn yn awr, ond cyn adeiladu'r Afsluitdijk roedd yn ran o'r môr a elwid y Zuiderzee.

Y prif ddinasoedd ar yr IJssel yw Zutphen, Deventer a Kampen, gyda Zwolle hefyd gerllaw.