Bingen am Rhein
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn yr Almaen yw Bingen am Rhein neu Bingen. Saif lle mae afon Nahe yn llifo i mewn i afon Rhein yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz, heb fod ymhell o ddinas Mainz.
Roedd Bingen yn sefydliad Celtaidd yn wreiddiol; yn y cyfnod Rhufeinig fe'i hadwaenid fel Bingium. Mae'n borthladd pwysig ar afon Rhein, ac yn adnabyddus am gynhyrchu gwin.

