Worms
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yn yr Almaen yw Worms. Saif ar Afon Rhein rhwng Ludwigshafen a Mainz, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 85,829.
Sefydlwyd Worms gan y Celtiaid dan yr enw Borbetomagus, a roddodd yr enw Lladin Vormatia. Ceir dadlau yn yr Almaen rhwng Worms, Cwlen a Trier pa un yw dinas hynaf y wlad.
Worms yw safle llawer o stori cerdd Almaeneg ganoloesol y Nibelungenlied, ac agorwyd amgueddfa y Nibelungenmuseum yma yn 2001. Mae'r eglwys gadeiriol hefyd yn nodedig. Yn Worms y cynhaliwyd Reichstag 1521 pan gyhoeddwyd Martin Luther yn herwr wedi iddo wrthod gwadu ei gredoau crefyddol.