Xanten
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith ffederal Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin yr Almaen yw Xanten. Saif ar lan ddeheuol afon Rhein. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 21,595.
Fel Colonia Ulpia Traiana, roedd yn ddinas Rufeinig bwysig; ymhlith y trigolion roedd cyn-filwyr o'r gwersyll cyfagos Castra Vetera, un o ganolfannau milwrol pwysicaf talaith Germania Inferior. Ceir llawr o olion o'r cyfnod yma.