Speyer
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yng ngorllewin yr Almaen yw Speyer. Saif ar lan afon Rhein tua 25 km i'r de o Ludwigshafen a Mannheim. Mae'r boblogaeth tua 50,000.
Yn y cyfnod Rhufeinig, adwaenid y ddinas fel Civitas Nemetum, ar ôl enw llwyth Almaenig y Nemetii, oedd wedi cael caniatad i ymsefydlu ar lan orllewiniol y Rhein dan yr ymerawdwr Augustus. Yn ddiweddarach, daeth yn ganolfan eglwysig bwysig yn y Canol Oesoedd. Mae Eglwys Gadeiriol Speyer yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: