Ravenna

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mawsoleum Theodoric yn Ravenna yw'r esiampl bwysicaf o bensaerniaeth y Gothiaid

Dinas hynafol yn yr Eidal yw Ravenna. Fe'i lleolir ger arfordir Môr Adria yn nhalaith Emilia-Romagna, yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae'n borthladd a gystylltir â Môr Adria gan gamlas.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Ravenna gan y Sabiniaid. Bu'n ddinas o gyfnod yr Umbriaid ymlaen ac mae'n bosibl iddi gael ei gwladychu gan yr Etrwsciaid. Syrthiodd i'r Rhufeiniaid yn yr 2ail ganrif CC. Cryfhawyd y ddinas gan yr ymerawdwr Augustus, a adeiladwyd camlesi yno a phorthladd milwrol. Roedd yn brifddinas yr Ymerodraeth Rufeinig yn y Gorllewin (402-476), teyrnas yr Ostrogothiaid (476-526) a'r exarchate Bysantaidd ar ôl hynny (584-751). Yn 751 cafodd y ddinas ei meddianu gan y Lombardiaid a daeth yr Oes Aur i ben. Dirywiodd i fod yn dref fechan ddinod yn yr Oesoedd Canol. Yn 1431 fe'i cipiwyd gan Gweriniaeth Fenis. Dim ond ar ôl i'r wlad gael ei huno gan Garibaldi a sefydlu gwladwriaeth fodern yr Eidal y dechreuodd Ravenna adfywio. Erbyn heddiw mae'n ganolfan masnach a diwydiant ac mae'n un o atyniadau twristaidd mwyaf yr Eidal.

Mae'r ddinas yn enwog am yr adeiladau o'r cyfnodau cynnar a'r mosaics sy'n eu haddurno, sy'n cynnwys Mawsoleum Theodoric, eglwys San Vitale, Mausoleum Galla Placida, eglwys Sant'Apollinare in Classe, Palas Theodoric a'r Duomo (eglwys gadeiriol).

Enwogion[golygu]