Ostrogothiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teyrnas yr Ostrogothiaid

Roedd yr Ostrogothisid (Greuthung neu y Gothiaid Disglair), yn un o'r ddwy gangen o'r Gothiaid, llwyth Germanaidd yn wreiddiol o'r diriogaeth sy'n awr yn ddwyrain Yr Almaen. Cangen arall y Gothiaid oedd y Fisigothiaid.

Ymddengys i lwyth y Gothiaid ymrannu yn ddau rywbryd tua'r 3edd ganrif. Ymddengys i'r Ostrogothiaid sefydlu teyrnas rhwng Afon Donaw ac Afon Dniepr yn yr hyn sy'n awr yn Rwmania. Daethant dan reolaeth yr Huniaid am gyfnod, gan ymladd gyda'r Huniaid ym Mrwydr Chalons yn 451. Wedi marwolaeth Attila yn 453 daethant yn annibynnol, a gorchfygasant feibion Attlia ym Mrwydr Neadao 454 dan Theodemir.

Daethant i gytundeb a'r Ymerodraeth Rufeinig a sefydlwyd hwy yn Pannonia. Yn 488 daeth mab Theodemir, Theodoric Fawr, i gytundeb a'r Ymerawdwr Rhufeinig yn y dwyrain, Zeno, i gipio Yr Eidal oddi wrth Odoacer. Cipiwyd Ravenna yn 493, a chymerodd Theodoric y ddinas yma fel ei brifddinas. Meddiannodd yr Eidal i gyd, a chredir i hyd at 250,000 o Ostrogothiaid ymsefydlu yno. Daeth Theodoric hefyd yn reolwr y Fisigothiaid yn Sbaen.

Bu farw Theodoric yn 526, a gwanychwyd y deyrnas gan ymladd mewnol. Yn 535 gyrroedd yr Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus I y cadfridog Belisarius i arwain ymgyrch yn erbyn yr Ostrogothiaid yn yr Eidal. Cipiodd Belisarius Napoli a Rhufain yn 536 a Ravenna yn 540. Galwyd Belisarius i'r dwyrain yn fuan wedyn, a gallodd yr Ostrogothiaid adennill tir dan eu brenin newydd Totila. Dychwelodd Belisarius i'r Eidal i'w wynebu yn 545, ond roedd yr ymerawdwr yn ei ddrwgdybio ac yn 548 galwyd ef yn ôl a rhoddwyd y fyddin i gadfridog arall, Narses. Lladdwyd Totila ym mrwydr Taginae yn 552 ac yn fuan wedyn daeth teyrnas yr Ostrogothiaid i ben.

Brenhinoedd yr Ostrogothiaid yn yr Eidal[golygu]