Justinianus I

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Justinianus I, mosaic yn Masilica San Vitale, Ravenna.

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 527 a 565 oedd Justinianus I, hefyd Justinian I neu Justinianus Fawr (Lladin: Flavius Petrus Sabbatius Justinianus, Groeg: Φλάβιος Πέτρος Σαββάτιος Ιουστινιανός (482/48313 neu 14 Tachwedd 565).

Ganed Justinianus yn Illyria; mae'n ymddangos mai Lladin oedd ei iaith gyntaf yn hytrach na Groeg. Aeth ei ewythr Justinus i Gaergystennin a phan daeth yn ddylanwadol yn y gard ymerodrol, galwodd Justinianus yno ato a'i fabwysiadu. Daeth Justinus ym ymerawdwr, a chredir i Justinianus fod a rhan bwysig yn rheoli'r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad ef. Ar farwolaeth Justinus, daeth Justinianus yn ymerawdwr ar 9 Awst 527.

Cafodd Justinianus ddylwanwad mawr ar yr ymerodraeth. Dechreuodd ymgyrch i ad-ennill y tiriogaethau a gollwyd gan yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, y renovatio imperii neu "adfer yr ymerodraeth". Dan gadfridogion fel Belisarius a Narses, enillwyd tiriogaethau eang yn ôl yn y gorllewin, er na allodd yr ymerodraeth ddal ei gafael arnynt yn y pen draw.

Bu Justinianus hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu Cyfraith Rhufain, y Corpus Juris Civilis sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Bu adfywiad diwylliannol yn ystod ei deyrnasiad hefyd, gan gynnwys adeiladu eglwys enwog Hagia Sophia yng Nghaergystennin.

Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Justinianus gan Bla Justinianus, yn ôl pob tebyg y Pla Du, a darawodd yr ymerodraeth yn y 540au cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Justinianus ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd Procopius.