Kursk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner dinas Kursk.
Golygfa ar ddinas Kursk.

Dinas sy'n ganolfan weinyddol Oblast Kursk, Rwsia, yw Kursk (Rwseg: Курск). Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth Rwsia Ewropeaidd, wrth y man lle mae Afon Kur, Afon Tuskar, ac Afon Seym yn cyfuno. Poblogaeth: 415,159 (Cyfrifiad 2010).

Hanes[golygu]

Ymladdwyd un o frwydrau mawr yr Ail Ryfel Byd yng nghyffiniau Kursk, sef Brwydr Kursk (5 Gorffennaf i 23 Awst, 1943). Hon oedd y frwydr tanciau fwyaf mewn hanes.

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.