Siegfried

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arwr y Nibelungenlied, cerdd Almaeneg sy'n dyddio o'r 13eg ganrif, yw Siegfried. Ymddengys hefyd ym mytholeg y gwledydd Llychlynnaidd fel Sigurd (Hen Lychlynneg: Sigurðr).

Siegfried yn y Nibelungenlied[golygu]

Ar ddechrau'r hanes mae'n Siegfried yn dod i Worms i lys Günther, brenin y Bwrgwyniaid. Gyda Günther mae'n ymladd a'r Sacsoniaid ac yna'n teithio i Wlad yr Ia i ennill Brünhilde fel gwraig i Günther. Mae Siegfried wedi cymeryd modrwy oddi wrth Brünhilde wrth iddi gysgu.

Yn ôl yn Worms, mae Siegfried yn priodi Kriemhilt, chwaer Günther, ond cyn hir mae ymryson rhyngddi hi a Brünhilde pwy yw prif wraig y llys. Daw Siegfried dan amheuaeth o fod wedi dwyn modrwy Brünhilde, ac mae'n tyngu llw ar waywffon Hagen, un o wŷr Günther. Penderfyna Hagen ladd Siegfried i amddiffyn anrhydedd y brenin.

Roedd Siegfried wedi lladd draig oedd yn byw mewn ogof ar fynydd y Drachenfels ac wedi ymolchi yn ei gwaed, a thrwy hyn nid oedd modd ei niwedio ag unrhyw arf, heblaw mewn un lle. Mae Hagen trwy ystryw yn perswadio Kriemhilt i nodi'r fan a chroes, yna tra allan yn hela, mae Hagen yn trywanu Siegfried â gwaywffon yn y fan honno.

Defnyddiodd y cyfansoddwr Almaenig Richard Wagner y stori fel sail i'w gylch enwog o operâu, Der Ring des Nibelungen ("Modrwy y Nibelung").