Lorelei

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Rhein a chraig y Lorelei

Craig ger glan afon Rhein gerllaw St. Goarshausen yn yr Almaen yw Craig y Lorelei, hefyd Loreley a fersiynau eraill.

Wrth fynd heibio'r graig, mae'r afon yn culhau gan greu man peryglus i longau. Dywedir bod un o'r Nixe, ysbrydion y dŵr ar ffurf merch ieuanc brydferth, hefyd o'r ene Lorelei, yn eistedd ar y graig ac yn canu. Roedd hyn yn swyno'r llongwyr nes i'w llongau daro yn erbyn y creigiau a chael eu dinistrio. Defnyddir yr hanes yng ngerdd enwog Heinrich Heine.