Afon Lek

Oddi ar Wicipedia
Afon Lek
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGrote rivieren Edit this on Wikidata
SirZuid-Holland, Gelderland, Utrecht Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Cyfesurynnau51.8903°N 4.6316°E Edit this on Wikidata
AberNieuwe Maas Edit this on Wikidata
LlednentyddNederrijn Edit this on Wikidata
Hyd62 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Afon Lek

Afon yn yr Iseldiroedd yw Afon Lek. Mae'n un o ganghennau Afon Rhein.

Dechreua afon Lek ger Wijk bij Duurstede, lle mae'r Nederrijn yn newid ei henw i'r Lek. Ger Kinderdijk mae'n ymuno ag Afon Noord i ffurfio afon Nieuwe Maas. Mae hyd y Lek yn 62 km.

Yn wreiddiol, un o hen sianeli'r Rhein oedd y Lek. Daeth yn afon gyda llif sylweddol o ddŵr ynddi yn y cyfnod Rhufeinig. Nid oes dinasoedd mawr ar y Lek, ond mae nifer o ddinasoedd bychain hanesyddol megis Wijk bij Duurstede, Culemborg, Vianen, Ameide, Nieuwpoort a Schoonhoven.