Mïosen
| System | Cyfres | Oes | Oes (Ma) | |
|---|---|---|---|---|
| Chwarteraidd | Pleistosenaidd | Gelasaidd | ifancach | |
| Neogenaidd | Plïosenaidd | Piacensaidd | 2.588–3.600 | |
| Sancleaidd | 3.600–5.332 | |||
| Mïosenaidd | Mesinaidd | 5.332–7.246 | ||
| Tortonaidd | 7.246–11.608 | |||
| Serravallaidd | 11.608–13.65 | |||
| Langhianaidd | 13.65–15.97 | |||
| Bwrdigalaidd | 15.97–20.43 | |||
| Acwitanaidd | 20.43–23.03 | |||
| Paleogenaidd | Oligocenaidd | Cataidd | hynach | |
| Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009. | ||||
Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy Mïosen (Saesneg: Miocene) (symbol MI[1]) o fewn y cyfnod Neogen, sy'n ymestyn o tua 23.03 to 5.332 miliwn o flynyddoedd yn ôl (Ma). Fe enwyd y cyfnod hwn gan Syr Charles Lyell daw'r enw o ddau air Groegaidd: μείων (meiōn, “llai”) a καινός (kainos, “newydd”) a golyga "llai diweddar" gan fod y cyfnod hwn yn cynnwys 18% yn llai o anifeiliaid di-asgwrn cefn na'r cyfnod Pliocen. Mae Mïosen yn dilyn y cyfnod Oligocen a daw'r Pliocen ar ei ôl.
Y Mïosen ydy epoc cyntaf y Cyfnod Neogen.
Roedd planhigion ac anifeiliaid y Cyfnod Mïosen yn gymharol fodern: roedd mamaliaid ac adar edi hen sefydlu erbyn y cyfnod hwn, felly hefyd y morfil, y morloi a gwymon. Mae'r cyfnod hwn o ddiddordeb mawr i ddaearegwyr gan y ffurfiwyd llawer iawn o fynyddoedd yr Himalayas ar yr adeg yma. Effaith hyn ar y tywydd yn Asia oedd ffurfio monswnau a rhewlifau yn Hemisffêr y Gogledd.[2]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ "Geologic Age Symbol Font (StratagemAge)". USGS. 99-430. http://pubs.usgs.gov/of/1999/of99-430/of99-430_sec38.pdf. Adalwyd 2011-06-22.
- ↑ An Zhisheng, John E. Kutzbach, Warren L. Prell & Stephen C. Porter (2001). "Evolution of Asian monsoons and phased uplift of the Himalaya Tibetan plateau since Late Miocene times". Nature 411: 62–66. doi:10.1038/35075035.