Pleistosen
| System | Cyfres | Oes | Oes (Ma) | |
|---|---|---|---|---|
| Chwarteraidd | Pleistosenaidd | Gelasaidd | ifancach | |
| Neogenaidd | Plïosenaidd | Piacensaidd | 2.588–3.600 | |
| Sancleaidd | 3.600–5.332 | |||
| Mïosenaidd | Mesinaidd | 5.332–7.246 | ||
| Tortonaidd | 7.246–11.608 | |||
| Serravallaidd | 11.608–13.65 | |||
| Langhianaidd | 13.65–15.97 | |||
| Bwrdigalaidd | 15.97–20.43 | |||
| Acwitanaidd | 20.43–23.03 | |||
| Paleogenaidd | Oligocenaidd | Cataidd | hynach | |
| Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009. | ||||
Epoc neu Gyfres ddaearegol ydy Pleistosen (Saesneg: Pleistocene) (
/ˈplaɪstəsiːn/) (symbol PS[1]) a barodd o tua 2,588,000 hyd at 11,700 o flynyddoedd yn ôl ac sy'n rhychwantu'r holl gyfnodau diweddar o rewlifau.
Syr Charles Lyell a fathodd y term ym 1839 i ddisgrifio strata o greigiau yn Sicily; sylweddolodd fod yn y creigiau hyn ffawna molysgaidd a bod 70% ohonyn yn dal i fodoli. Roedd y ffaith hwn yn ei wneud yn gwbwl wahanol i'r epoc Plïosenaidd ac yn ei wneud yn gyfnod gwahanol ac iau. Bathodd y term "Pleistocene" ("Mwayfa newydd") o'r Groeg: πλεῖστος, pleīstos, "mwyaf", a καινός, kainós (a Ladineiddiwyd fel cænus), "newydd"; roedd hyn, felly, yn cyferbynnu gyda'r cyfnod a'i rhagflaenodd, sef y Cyfnod Plïosenaidd ("Mwy newydd", o'r gair πλείων, pleíōn, "mwy", a kainós Pliocene), a'r cyfnod a'i dilynodd sef Holocen ("yn gyfangwbwl newydd", a darddodd o'r Groeg ὅλος, hólos, "yn gyfangwbwl" (Saesneg: whole, a kainós) sy'n ymestyn hyd at y presennol.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Geologic Age Symbol Font (StratagemAge)". USGS. 99-430. http://pubs.usgs.gov/of/1999/of99-430/of99-430_sec38.pdf. Adalwyd 2011-06-22.