Bannod

Oddi ar Wicipedia

Geiryn a ddefnyddir mewn rhai ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, i wneud enw'n benodol yw'r fannod. Mewn rhai ieithoedd, fel Ffrangeg a Saesneg er enghraifft, ceir bannod amhenodol o flaen enwau hefyd, ond dim yn y Gymraeg ac am hynny defnyddir y term 'bannod' yn Gymraeg i gyfateb i'r term definite article ("bannod benodol") yn Saesneg. Mae rhai ieithoedd eraill, Siapaneg er enghraifft, yn hebgor y fannod yn gyfangwbl.

Y Fannod yn Gymraeg[golygu | golygu cod]

Ceir tair ffurf i'r Fannod yn Gymraeg:

  • Yr, a ddefnyddir o flaen llafariaid ac h. Enghreifftiau: 'yr oren', 'yr haf'.
  • Y, a ddefnyddir o flaen cytseiniaid. Enghreifftiau: 'y bachgen', 'y mwnci'.
  • ‘r, a ddefnyddir ar ôl llafariad. Enghreifftiau: 'mae'r dref', 'i'r siop', 'a'r afal'.
Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.