Wicipedia:Sut i olygu tudalen

Oddi ar Wicipedia
Cymorth:CynnwysCymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys


Gweler hefyd Wicipedia:Tiwtorial.

Gallwch olygu erthyglau Wicipedia mewn 3 ffordd:

  1. Y Golygydd Gweladwy (hitiwch 'Golygu')
  2. Golygu'r cod (hitiwch 'Golygu cod y dudalen')
  3. Y Cymhorthydd Golygu, sy'n eich galluogi i gyfieithu erthygl o iaith arall

Ymddengys y newidiadau gynted ag y byddwch yn dewis "Cadw" neu "Cyhoeddi".

Arbrofi

Os ydych am arbrofi byddwch mor garedig â gwneud hynny yn y pwll tywod yn hytrach nag yn fan hyn. Mewn rhai porwyr mae modd agor y bocs tywod mewn tab neu ffenestr arall er mwyn gallu gweld y dudalen hon a’r arbrofion yn y pwll tywod ar unwaith. I wneud hynny cliciwch i’r dde ar y cyswllt i’r pwll tywod a dewiswch ‘Agor mewn ffenestr arall’.

Mae golygu tudalen Wici'n syml

Cliciwch ar y tab "Golygu" ar ben y ddalen ac fe agorir blwch testun ac ynddo iaith syml Wicipedia. Wedi i chi orffen golygu yn y blwch testun symudwch i waelod y dudalen olygu ble y gwelwch:

  • blwch "crynodeb": i nodi natur y golygiad, e.e. ychwanegu cyswllt, cam-sillafiad. Bydd hyn yn hwyluso gwaith defnyddwyr eraill.
  • blwch ticio "Mae hwn yn olygiad bychan". Gallwch dicio’r blwch os mai cywiro un gwall neu gamdeipio ydych. Ni ddylid ticio’r blwch os oes rhyw newid yn y ffeithiau yn yr erthygl. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
  • botwm "Dangos Rhagolwg". Cliciwch ar hwn ac mewn ychydig eiliadau bydd rhagolwg o’r dudalen yn ymddangos ar ben uchaf y dudalen olygu, uwchben y blwch testun. Defnyddiwch y bar rholio ar yr ymyl dde i symud lawr ar hyd y dudalen nes y dewch at y blwch testun eto, lle y gallwch barhau i olygu, ac islaw hwnnw at y tri botwm glas
  • blwch ticio "Gwylier y dudalen hon". Ticiwch y blwch os am ychwanegu’r dudalen at eich rhestr gwylio. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi all wneud hyn.
  • botwm "Dangos newidiadau". O ddewis hwn fe welwch pa newidiadau yr ydych ar fin eu gwneud i’r fersiwn gynt.
  • botwm "Cadw’r dudalen". Dewisiwch hwn pan rydych yn fodlon â'r y golygiad ac mae'n 'safio' neu'n 'cadw' unrhyw newidiadau a wnaethoch. Gofal: os symudwch o’r dudalen olygu i dudalen arall cyn dewis "Cadw’r dudalen" fe gollwch y gwaith teipio a wnaethoch.

Mae gan bob erthygl (a thudalen arall) "Dudalen sgwrs" ar gyfer sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Wicipedia. Gallwch olygu hon hefyd drwy ddewis y tab "Golygu" uwch ei phen. Os y byddwch yn ychwanegu at y dudalen sgwrs cofiwch lofnodi'r darn os gwelwch yn dda, trwy ychwanegu 4 tilda ~~~~.

Awgrymiadau ar olygu erthyglau ar Wicipedia[golygu cod]

Defnyddiwch safbwynt niwtral bob amser. Nid lle i hyrwyddo safbwynt bersonol yw Wicipedia. Ysgrifennwch fel petai’r wybodaeth yn rhan o erthygl newyddion, ddiduedd. Os ydych yn trafod pwnc dadleuol, gellir egluro'r gwahanol safbwyntiau sydd yn bod, dim ond i chi beidio â chynnwys barn bersonol neu ddyfarniad ar gywirdeb rhyw safbwynt arbennig.

Ceisiwch gofio mae gwyddoniadur neu enseiclopedia ydy Wicipedia. Ceir llinyn mesur er mwyn ystyried a ydy'r gwrthrych neu'r berson yn ddigon pwysig neu amlwg i'w gynnwys ai peidio, fel a geir mewn fersiynau gwahanol ieithoedd eraill, sef a ydy'r person neu gwmni (ayb) wedi ymddangos ar dudalen flaen papur newydd cenedlaethol, neu raglen (neu ran o raglen) arno neu arni. Ceir y manylion llawn yma.

Cyfeiriwch at eich ffynonellau fel bod eraill yn gallu gwirio neu ehangu eich gwaith. Mae nifer helaeth o erthyglau ar Wicipedia heb gyfeirnodau da arnynt ac mae hyn yn cyfrannu at y feirniadaeth lymaf ar Wicipedia sef nad yw'r ffynhonellau'n ddibynadwy. Gallwch hwyluso’r gwaith golygu i eraill sy’n golygu eich cyfraniadau chi drwy ymchwilio ar y we ac ar bapur i ddarganfod cyfeirnodau ar gyfer eich erthygl. Yna cynhwyswch y cyfeirnodau hynny ar waelod yr erthygl, gyda nodyn byr yn cyfeirio at y cyfeirnod llawn yn y testun ei hunan os yw’r ffeithiau a drafodir yn ddadleuol. Un ffordd safonol o osod cyfeirnod byr yng nghanol y testun wedi’r ffaith y mae’n cyfeirio ato yw mewn cromfachau fel hyn: (Awdur, blwyddyn cyhoeddi, tudalen rhif tudalen-rhif tudalen). Dylai cyfeirnod llawn gynnwys - Awdur "Teitl llyfr", Cyhoeddwr, blwyddyn cyhoeddi, cyfeirnod ISBN – ar gyfer llyfr ac – Awdur, ’Teitl yr erthygl’, dyddiad cyhoeddi, dyddiad y lawrlwythwyd os ar y we – ar gyfer erthygl o gylchgrawn. Er hyn, 'dyw'r rhan fwyaf o lyfrau ddim yn cyfeirio at ffynhonellau, mwy nag ydy'r rhan fwyaf o raglenni teledu.

Ar ôl cwblhau tudalen newydd, argymhellir i chwi:

  • ddewis y botwm 'Beth sy'n cysylltu yma' yn y blwch offer er mwyn dilyn trywydd y cysylltiadau i'r erthygl newydd sydd eisoes yn bodoli. Gellir cadarnhau bod pwnc yr erthygl yn cyfateb i ystyr y gair sy'n cysylltu;
  • ddefnyddio'r botwm 'Chwilio' i ddarganfod erthyglau eraill sy'n cynnwys teitl yr erthygl newydd, neu amrywiadau arno. Gellir creu cysylltiadau (dolennau) o'r erthyglau hyn at yr erthygl newydd; a
  • chreu tudalennau ailgyfeirio o amrywiadau ar deitl yr erthygl, gan gynnwys camsillafiadau, amrywiaethau ar atalnodi neu sillafu a thermau amgen.

Cystrawen neu gôd Wici[golygu cod]

Rhoddir enghreifftiau o gôd Wici ar y dudalen Canllaw Pum Munud. Isod ceir enghreifftiau o'r 6 cystrawen Wici amlaf eu defnydd.

Yng ngholofn chwith y tabl isod gwelir pa waith dylunio sydd yn bosib ei wneud ar Wicipedia. Yn y golofn dde disgrifir sut y crëir yr effeithiau hyn, h.y. beth sydd angen ei deipio i greu'r ffurf ar y testun a ddangosir ar y chwith.

Os ydych am gadw'r dudalen hon wrth law gallwch gadw'r dudalen ar agor mewn ffenestr arall.

I ymddangos fel hyn teipiwch hyn

Gallwch italeiddio'r testun drwy osod 2 gollnod ar bob ochr iddo.


Bydd 3 collnod naill ochr yn creu testun teip trwm.

Bydd 5 collnod naill ochr yn creu testun trwm wedi italeiddio.


(Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na thestun trwm ag 'un collnod dros ben'.)

Gallwch ''italeiddio'r testun'' drwy 
osod 2 gollnod ar bob ochr iddo. 

Bydd 3 collnod naill ochr yn creu 
'''testun''' teip trwm. 

Bydd 5 collnod naill ochr yn creu 
'''''testun''''' trwm wedi italeiddio.

(Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na 
thestun trwm ag ''''un collnod dros 
ben''''.)

Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar dudalennau sgwrs gyda:
- 3 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr: Karl Wick
- 4 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr, yr amser a'r dyddiad: Karl Wick 07:46, 27 Tach 2005 (UTC)
- 5 tilde ar gyfer yr amser a'r dyddiad yn unig: 07:46, 27 Tach 2005 (UTC)

Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar 
dudalennau sgwrs gyda: <br>
- 3 tilde ar gyfer eich enw 
defnyddiwr: ~~~ <br>
- 4 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr, 
yr amser a'r dyddiad: ~~~~ <br>
- 5 tilde ar gyfer yr amser 
a'r dyddiad yn unig: ~~~~~ <br>
Penawdau adrannau

Gallwch ddefnyddio penawdau i drefnu erthygl yn adrannau. Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau.

Isadran

Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i greu isadrannau.


Isadran llai

Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt.

Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau H1 ar gyfer teitlau erthyglau.

== Penawdau adrannau ==

Gallwch ddefnyddio ''penawdau'' i drefnu 
erthygl yn adrannau.
Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu
taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau.

=== Isadran ===

Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i
greu isadrannau.

==== Isadran llai ====

Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 
4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt. 

Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach 
nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau 
H1 ar gyfer teitlau erthyglau.
  • I greu rhestr heb ei threfnu:
    • Dechreuwch pob llinell â seren.
      • Mae rhagor o sêr yn ychwanegu is-lefelau.
    Mae'r eitem gynt yn parhau.
    • Mae llinell newydd
  • yn y rhestr

yn nodi diwedd y rhestr.

  • Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd.
* I greu ''rhestr heb ei threfnu'':
** Dechreuwch pob llinell â seren.
*** Mae rhagor o sêr yn creu is-lefelau.
*: Mae'r eitem gynt yn parhau.
** Mae llinell newydd
* yn y rhestr  
yn nodi diwedd y rhestr.
* Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd.
  1. Mae rhestri wedi'i rhifo yn:
    1. drefnus iawn
    2. hawdd i'w dilyn.

Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.

  1. Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1.
# Mae ''rhestri wedi'i rhifo'' yn:
## drefnus iawn
## hawdd i'w dilyn.
Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.
# Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1.

Dyma gyswllt i'r dudalen Alotrop. Gallwch ysgrifennu alotropau ac fe ymddengys y cyswllt yn gywir.

Dyma gyswllt i'r dudalen
 [[Alotrop]].
Gallwch ysgrifennu 
[[alotrop]]au
ac fe ymddengys y cyswllt 
yn gywir.

Nid yw'r dudalen Tywydd Moscow yn bod eto. Gallwch ei greu drwy bwyso ar y cyswllt.

Nid yw'r dudalen
[[Tywydd Moscow]] yn  
bod eto. Gallwch ei greu drwy 
bwyso ar y cyswllt.

Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl:

Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt #Example section 3 i'r trydydd adran o'r enw "Example section".


Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl:


*[[Cymraeg#Statws swyddogol]].

Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl 
ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt
[[#Example section 3]] i'r trydydd adran
o'r enw "Example section".

Tablau[golygu cod]

Gosod y daflen gynnwys (TOC)[golygu cod]

Yn ôl cystrawen wici ar hyn o bryd fe ymddengys y daflen gynnwys pan bod pedwar neu ragor o benawdau mewn erthygl. Fe ymddengys o flaen y pennawd cyntaf. Er mwyn dileu'r daflen rhowch __DIMTAFLENCYNNWYS__ rhywle yn yr erthygl. Gweler Wicipedia:Taflen cynnwys ar sut i greu taflenni cryno yn seiliedig ar yr wyddor neu'r flwyddyn.

Llwybr tarw[golygu cod]

Newidynnau[golygu cod]

CodEffaith
{{MISCYFOES}} 03
{{ENWMISCYFOES}} Mawrth
{{GENENWMISCYFOES}} Mawrth
{{DYDDIADCYFOES}} 19
{{ENWDYDDCYFOES}} Dydd Mawrth
{{FLWYDDYNCYFOES}} 2024
{{AMSERCYFOES}} 03:54
{{NIFEROERTHYGLAU}} 280,423

NIFEROERTHYGLAU: nifer yr erthyglau sydd â chyswllt ynddynt ac nad ydynt yn dudalennau ailgyfeirio, h.y. nifer yr erthyglau, egin erthyglau â chyswllt ynddynt a thudalennau gwahaniaethau.

Gwelwch hefyd[golygu cod]