Wicipedia:Llwybr brys

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Wicipedia:Llwybr tarw)
Llwybr(au) brys:
WP:CROESO

Mae llwybr brys (neu lwybr tarw; Saesneg: Shortcut) yn ddull hwylus a sydyn i ganfod tudalen ar Wici, heb orfod teipio'r teitl neu'r enw cyfan yn y blwch chwilio. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ffurfio tudalen ailgyfeirio o'r talfyriad i'r teitl hir.

Fel arfer, cânt eu defnyddio gan y gymuned i drafod materion sy'n ymwneud â golygu Wicipedia neu ar dudalennau sgwrs, porth neu wicibrosiect. Gellir eu cynnwys yn daclus mewn blwch ar frig, dde'r dudalen pan fo angen (gweler uchod). Yr arferiad yw defnyddio llythrennau bras er mwyn medru eu hadnabod yn hawdd.

Mae dwy ran i'r llwybr brys: y llythrennau WP yw'r cyntaf, sy'n golygu WiciPedia. Yna ceir colon ac mae'r ail ran yn dalfyriad ystyrlawn e.e. WP:CROESO.

Blwch dolenni llwybrau brys[golygu cod]

Dolennau parod i dudalennau polisi, canllawiau neu hyfforddi yw'r rhain, fel arfer, ac ni ddylid cynnwys mwy na dau neu dri.

O deipio {{shortcut|WP:CROESO}} ar dudalen defnyddiwr er enghraifft mae'r blwch ar y dde yn ymddangos.

Rhai llwybrau poblogaidd[golygu cod]

Gwelwch hefyd[golygu cod]