Zürich (canton)
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swistir yw Zürich, Saif yng ngogledd y wlad, a'r brifddinas yw dinas Zürich.
Roedd y boblogaeth yn 2003 yn 1,245.683. Almaeneg yw iaith gyntaf y mwyafrif, 83,4%, ac o ran crefydd roedd 30.6% yn Gatholigion a 39.8 % yn Brotestaniaid.
Daeth y canton yn rhan o gonffederasiwn y Swisdir yn 1351. Mae'r ardal yn un o'r cyfoethocaf yn y Swisdir, ac felly hefyd yn un o'r cyfoethocaf yn y byd.
Y dinasoedd a threfi mwyaf yw:
- Zürich, 342,518 o drigolion
- Winterthur, 90,152
- Uster, 28,770
- Dübendorf, 22,541