Glarus (canton)
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swisdir yw Glarus (Almaeneg: Glarus, Ffrangeg: Glaris). Saif yng nwyrain canolbarth y Swisdir, ac roedd y boblogaeth yn 2003 yn 38,283. Prifddinas y canton yw dinas Glarus.
Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (85.8%); o ran crefydd mae 42% yn brotestaniaid a 37% yn Gatholigion.
Llifa afon Linth trwy'r canton, ceir llyn y Walensee yma. Yr uchaf o gopaon yr Alpau yn Glarus yw Tödi, 3614 medr o uchder.
| Cantonau'r Swistir | |
|---|---|
| Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
| Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |