Genefa (canton)
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swisdir yw Genefa (Almaeneg: Genf, Ffrangeg: Genève). Saif yng ngorllewin eithaf y Swisdir, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 438,685. Prifddinas y canton yw dinas Genefa.
Saif y canton ger glan Llyn Léman neu Lyn Genefa, ac mae afon Rhône yn llifo trwyddo. Dim ond ar un canton arall y mae'n ffinio, Vaud yn y dwyrain. Fel arall, fe'i hamgylchynir gan Ffrainc. Ffrangeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (75.8%).
| Cantonau'r Swistir | |
|---|---|
| Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
| Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |

