Basel Wledig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad canton Basel Wledig

Un o gantonau'r Swistir yw Basel Wledig (Almaeneg: Basel-Landschaft, Ffrangeg: Bâle-Campagne, hefyd yn lleol Baselland neu Baselbiet). Saif yng ngogledd y Swistir, gydag afon Rhein yn ffurfio'r ffîn rhyngddo a'r Almaen, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 267,105. Prifddinas y canton yw Liestal. Ceir rhan o fynyddoedd y Jura yng ngogledd y canton.

Hanner canton yw Basel Wledig. Mae hyn yn golygu nad oes ganddo ond un cynrychiolydd yn y Ständerat, a bod y canlyniad mewn refferendwm yn cyfrif fel hanner canlyniad canton llawn. Fel arall, mae ganddo'r un hawliau a'r cantonau eraill.

Almaeneg yw iaith gyntaf y mwyafrif (87.2%) o'r trigolion.


Arfbais canton Basel Wledig


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Cantonau'r Swistir
Cantonau AargauBernFribourgGenefaGlarusGraubündenJuraLucerneNeuchâtelSt. GallenSchaffhausenSchwyzSolothurnThurgauTicinoUriValaisVaudZugZürich
Hanner Cantonau Appenzell AusserrhodenAppenzell InnerrhodenBasel DdinesigBasel WledigNidwaldenObwalden