Basel Ddinesig
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swisdir yw Basel Ddinesig (Almaeneg: Basel-Stadt, Ffrangeg: Bâle-Ville). Saif yng ngogledd y Swisdir, ar y ffîn gyda Ffrainc a'r Almaen, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 188,488. Prifddinas y canton yw dinas Basel. Heblaw'r ddinas ei hun, mae'r canton yn cynnwys dwy gymuned i'r gogledd o afon Rhein.
Hanner canton yw Basel Ddinesig. Mae hyn yn golygu nad oes ganddo ond un cynrychiolydd yn y Ständerat, a bod y canlyniad mewn refferendwm yn cyfrif fel hanner canlyniad canton llawn. Fel arall, mae ganddo'r un hawliau a'r cantonau eraill.
Almaeneg yw iaith gyntaf y mwyafrif (79.3%) o'r trigolion.
| Cantonau'r Swistir | |
|---|---|
| Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
| Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |