Vaud
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swistir yw canton Vaud (VD) (Almaeneg: Waadt). Saif yng ngorllewin y Swistir, ac mae'n ffinio ar Lyn Léman yn y de. Ei brifddinas yw Lausanne.
Roedd Vaud yn wreiddiol yn ran o diriogaethau Savoie, a gipiwyd gan Berne. Daeth yn annibynnol ar 24 Ionawr 1798 wedi i Napoleon orchfygu'r diriogaeth, ac ymunodd a Chonffederasiwn y Swistir ar 14 Ebrill 1803.
Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 662,145. Ffrangeg yw prif iaith y canton.