Obwalden
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swisdir yw Obwalden (Ffrangeg: Obwald), yn swyddogol hefyd Unterwalden ob dem Wald. Saif yng nganolbarth y Swisdir, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 33,300. Prifddinas y canton yw Sarnen.
Hanner canton yw Obwald. Mae hyn yn golygu nad oes ganddo ond un cynrychiolydd yn y Ständerat, a bod y canlyniad mewn refferendwm yn cyfrif fel hanner canlyniad canton llawn. Fel arall, mae ganddo'r un hawliau a'r cantonau eraill.
Saif Obwalden yr yr Alpau; y copa uchaf yw Titlis, 3,238 medr. Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (92.3%), ac o ran crefydd roedd 88.7% yn Gatholigion a 7% yn brotestaniaid yn 2003.
| Cantonau'r Swistir | |
|---|---|
| Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
| Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |