Schaffhausen (canton)
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swisdir yw Schaffhausen (Almaeneg: Schaffhausen; Ffrangeg: Schaffhouse). Saif yng ngogledd y Swisdir, ac roedd y boblogaeth yn 2003 yn 73,749. Prifddinas y canton yw dinas Schaffhausen.
Schaffhausen yw canton mwyaf gogleddol y Swisdir, a saif bron y cyfan ohono ar lan ogleddol afon Rhein. Ceir rhan o fynyddoedd y Jura yma, yn codi i uchder o 912 medr. Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (87.6%), ac o ran crefydd roedd 50.6% yn brotestaniaid a 24.3% yn Gatholigion yn 2003.
Ceir rhaeadr mwyaf Ewrop, y Rheinfall, yn y canton.
| Cantonau'r Swistir | |
|---|---|
| Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
| Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |