Neuchâtel (canton)
Oddi ar Wicipedia
Un o gantonau'r Swisdir yw Neuchâtel (Almaeneg: Glarus, Ffrangeg: Glaris). Daw'r enw o'r Lladin Novum Castellum (castell newydd). Saif yng ngorllewin y Swisdir, ac roedd y boblogaeth yn 2002 yn 166,500. Prifddinas y canton yw dinas Neuchâtel, ond y ddinas fwyaf yw La Chaux-de-Fonds.
Ffrangeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (85.3%); o ran crefydd mae'r mwyafrif yn brotestaniaid.
Saif y canton ym mynyddoedd y Jura, ac mae'n ffinio ar Ffrainc ac ar Lyn Neuchâtel. Mae'r ardaloedd o amgylch Llyn Neuchâtel yn adnabyddus am gynhyrchu gwin.
| Cantonau'r Swistir | |
|---|---|
| Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
| Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |

