Labordy
Oddi ar Wicipedia
Ystafell neu adeilad gwyddonol ydy labordy ble ceir amodau teg, wedi eu rheoli er mwyn gwneud ymchwil gwyddonol, arbrofion neu i gymeryd mesuriadau gwyddonol. Wethiau defnyddir y gair yn llac am lefydd ymchwiliol tebyg e.e. "labordy ffilm" neu "labordy meddygol".
Ceir labordai mewn ysgolion, colegau, diwydiant a chyrff cyhoeddus a milwrol a hyd yn oed mewn llongau a rocedi. Gall y nifer sy'n gweithio mewn labordy wahaniaethu o fod rhwng un person a thros tri-deg.