Eiger

Oddi ar Wicipedia
Eiger
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBern Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Swistir Y Swistir
Uwch y môr3,967 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.577608°N 8.005287°E Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd362 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMönch Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddJungfrau-Fiescherhorn Group Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Mynydd 3,970 metr o uchder yn yr Alpau yw'r Eiger. Saif yn y Swistir, ar ben dwyreiniol crib sydd hefyd yn cynnwys copaon y Mönch (4,107 m) a'r Jungfrau (4,158 m). Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 11 Awst, 1858, gan y Gwyddel Charles Barrington gyda'r tywysyddion Swisaidd Christian Almer a Peter Bohren. Mae rheilffordd yr Jungfraubahn yn arwain trwy dwnel tu mewn i'r mynydd i gyrraedd bwlch y Jungfraujoch, yr orsaf reilffordd uchaf yn Ewrop.

Yr hyn sy'n gwneyd yr Eiger yn enwog yw'r wyneb gogleddol, y Nordwand mewn Almaeneg. Bu farw nifer o ddringwyr yn y 1930au yn ceisio ei ddringo, cyn i Anderl Heckmair, Ludwig Vörg, Heinrich Harrer a Fritz Kasparek ei ddringo ar 24 Gorffennaf, 1938.

Yn 1981, ffilmiwyd y dringwr Cymreig Eric Jones yn dringo'r wyneb gogleddol ar ei ben ei hun gan Leo Dickinson, ffilm a gyhoeddwyd fel Eiger Solo.

Y man cychwyn arferol ar gyfer dringo'r Eiger yw pentref Grindelwald wrth ei droed.