Grindelwald
Oddi ar Wicipedia
Pentref mynyddig yng nghanton Bern yn y Swistir yw Grindelwald. Saif yn nyffryn y Lütschental, rhwng mynyddoedd yr Eiger, Wetterhorn, Fiescherwand a Faulhorn, gyda'r Jungfrau gerllaw.
Oherwydd ei leoliad, ma'n gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, yn enwedig yn y gaeaf ar gyfer sgïo.
Oddi yma, gellir cymeryd rheilffordd yr Jungfraubahn, sy'n arwain trwy dwnel tu mewn i'r Eiger a'r Mönch i gyrraedd bwlch yr Jungfraujoch, yr orsaf reilffordd uchaf yn Ewrop.