Thun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thun a Llyn Thun o'r Niederhorn.

Dinas yng nghanton Bern yn y Swistir yw Thun (Almaeneg: Thun, Ffrangeg: Thoune). Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 42,136.

Saif Thun lle mae afon Aare yn llifo allan o Lyn Thun (Thunersee), 30 km i'r de o ddinas Bern. Daw'r enw o'r gair Celteg Dunum (cymharer Cymraeg "din", "dinas"). Roedd yn ganolfan bwysig yn y cyfnod Rhufeinig. Prynwyd y ddinas gan ganton Bern yn 1384. Dyddia'r castell o'r 12fed ganrif.