Cytundeb Schengen
Mae Cytundeb Schengen yn caniatau symud o un wlad i'r llall heb wirio pasbortau. Fe'i enwir ar ol y pentref o'r un enw yn Lwcsembwrg lle llofnodwyd y cytundeb gwreiddiol yn 1985.
Mae chwech ar hugain o wledydd yn Ewrop, yn cynnwys pedwar sy ddim yn yr UE, sydd wedi arwyddo Cytundeb Schengen. Nid yw’r DU yn aelod llawn o’r cytundeb hwn, sy’n golygu y bydd angen i chi ddangos eich pasbort wrth fynd i mewn i ardal y Cytundeb Schengen. Unwaith yr ydych chi yn "Schengenland" rydych yn rhydd i deithio o un wlad i’r llall heb wiriadau ar eich pasbort na chael ieich stopio gan wŷr y tollau.
Aelodau [golygu]
Bob un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd heblaw:
a'r Gwledydd isod;
Un effaith hyn oll yw ail-agor ffiniau a chaniatau cymunedau a rhannwyd gyda cwymp Awstria-Hwngari, Ymerodraeth yr Almaen ac Ymerodraeth Rwsia ym 1918 i ail-gysylltu. Er enghraifft y pentref "Slovensko Nove Mesto" yn Slofacia (ble mae'r orsaf a llinell tren) a'r dinas Hwngariad "Sátoraljaújhely". (Roedd "Slovensko Nove Mesto" yn faesdref iddo).
Cyfeiriadau [golygu]
- Schengen - http://www.eurotopics.net/en/home/presseschau/archiv/magazin/politik-verteilerseite/schengen-2008-01/
- János Irházi, http://www.eurotopics.net/en/home/presseschau/archiv/results/archiv_article/ARTICLE16095-Everyday-life-in-a-divided-city
- http://www.slovnovemesto.szm.sk/
- Cymraeg - http://ec.europa.eu/unitedkingdom/pdf/ik7807019cyc.pdf