Gwlad dirgaeëdig
Gwlad dirgaeëdig neu gwlad dirgylch yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio gwlad a amgylchynnir yn gyfangwbl gan dir, neu wlad gydag unrhyw ran o'i harfordir yn gorwedd ar fôr caeëdig. Mae 47 o wledydd tirgaeëdig yn y byd (sydd yn cynnwys rhai gwledydd a gydnabyddir yn rhannol yn unig). Yr unig gyfandiroedd lle ni cheir unrhyw wlad dirgaeëdig yw Gogledd America ac Awstralasia.
Gwlad dirgaeëdig fwyaf y byd yw Kazakhstan yng Nghanolbarth Asia.
Mae dwy wlad yn y byd yn cael eu hystyried yn wledydd dwbl dirgaeëdig, h.y. mae'r wlad wedi ei hamgylchynnu yn gyfangwbl gan wledydd tirgaeëdig eraill, ac felly rhaid croesi dwy ffin er mwyn cyrraedd arfordir ohonynt:
- Uzbekistan yng nghanolbarth Asia, a amgylchynnir gan Afghanistan, Kazakhstan, Kyrgyzstan, Tajikistan, a Tyrcmenistan.
- Liechtenstein, a amgylchynnir gan Y Swistir ac Awstria.
Gelwir gwlad a amgylchynnir gan un wlad yn unig yn glofan. Mae 3 clofan yn y byd, sef San Marino, Y Fatican a Lesotho.
Rhestr gwledydd tirgaeëdig [golygu]
| Gwlad | Arwynebedd (km²) |
|---|---|
| 647,500 | |
| 468 | |
| 29,743 | |
| 83,871 | |
| 86,600 | |
| 207,600 | |
| 38,394 | |
| 1,098,581 | |
| 582,000 | |
| 274,222 | |
| 27,834 | |
| 622,984 | |
| 1,284,000 | |
| 78,867 | |
| 1,104,300 | |
| 93,028 | |
| 2,724,900 | |
| 10,908 | |
| 199,951 | |
| 236,800 | |
| 30,355 | |
| 160 | |
| 2,586 | |
| 25,713 | |
| 118,484 | |
| 1,240,192 | |
| 33,846 | |
| 1,564,100 | |
| Nagorno-Karabakh (anghydf.) | 11,458 |
| 147,181 | |
| 1,267,000 | |
| 406,752 | |
| 26,338 | |
| 61 | |
| 88,361 | |
| 49,035 | |
| De Ossetia (anghydf.) | 3,900 |
| 17,364 | |
| 41,284 | |
| 143,100 | |
| Transnistria (anghydf.) | 4,163 |
| 488,100 | |
| 241,038 | |
| 447,400 | |
| 0.44 | |
| 752,612 | |
| 390,757 |