Afon Saône
Oddi ar Wicipedia
Afon Saône yn llifo heibio Lyon.
Afon yn nwyrain Ffrainc yw afon Saône; hi yw'r fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn i afon Rhône.
Mae'n tarddu yn Vioménil yn département Vosges. Fe'i gelwir y petite Saône hyd nes iddi gyrraedd Verdun-sur-le-Doubs, lle mae afon Doubs yn ymuno a hi. Mae'n ymuno ag afon Rhône yn Lyon. Dalgylch y Saône yw'r mwyaf yn Ffrainc, 30000 km². Yn y cyfnod Rhufeinig, fe'i gelwid yr Arar.
[golygu] Départements a phrif drefi ar yr afon
- Vosges : Darney, Monthureux-sur-Saône, Châtillon-sur-Saône
- Haute-Saône : Jonvelle, Corre, Jussey, Port-sur-Saône, Scey-sur-Saône, Gray
- Côte-d'Or : Auxonne, Saint-Jean-de-Losne, Seurre
- Saône-et-Loire : Verdun-sur-le-Doubs, Chalon-sur-Saône, Tournus, Mâcon, Crèches-sur-Saône
- Rhône : Belleville-sur-Saône, Villefranche-sur-Saône, Anse, Neuville-sur-Saône,Fontaines-sur-Saône,Caluire-et-Cuire, Lyon
- Ain : Thoissey, Jassans-Riottier, Trévoux