Asiantaeth Ofod Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia
Asiantaeth Ofod Ewropeaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhynglywodraethol, asiantaeth ofod, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu30 Mai 1975 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganEuropean Launcher Development Organisation Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSMILE Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadDirector General of the European Space Agency Edit this on Wikidata
SylfaenyddGwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Gorllewin yr Almaen, yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Sweden, y Deyrnas Unedig, Y Swistir Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolInter-Agency Space Debris Coordination Committee, Consultative Committee for Space Data Systems, Open Geospatial Consortium, RIPE Network Coordination Centre, DataCite Edit this on Wikidata
Gweithwyr2,200 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolQ112176659 Edit this on Wikidata
PencadlysParis Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.esa.int/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (Ffrangeg: Agence spatiale européenne) (a dalfyrir yn ryngwladol i: ESA), a sefydlwyd ym 1975, yn sefydliad rhynglywodraethol sy'n ymroddedig i fforio'r gofod. Mae ganddi 22 aelod, gweithlu o 2,000 o bobl a chyllid blynyddol o ryw €4.23 biliwn. Lleolir ei phencadlys ym Mharis.[1]

     Aelod-genhedloedd ESA a'r Undeb Ewropeaidd     Aelodau ESA yn unig     Aelodau UE yn unig

Mae rhaglen hedfan yr ESA yn cynnwys ehediadau gyda phobol, yn bennaf trwy gymryd rhan yn rhaglen hirdymor yr Orsaf Ofod Ryngwladol, lansio teithiau fforio di-griw i blanedau eraill, comedau a'r Lleuad, arsylwadau o'r Ddaear, gwyddoniaeth, telgyfathrebu, yn ogystal â datblygu maes lawnsio rocedi Canolfan Ofod Guiana ger Kourou, Guiana Ffrengig, a dyluno cerbydau lansio. Prif gerbyd lansio ESA yw'r Ariane 5, sy'n cael ei redeg gan Arianespace gydag ESA yn rhannu cost y lansiadau a datblygu'r cerbyd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Efallai mai'r ysbrydoliaeth pennaf dros sefydlu ESA oedd blaengaredd cynlluniau Sputnik yr Undeb Sofietaidd. Dychrynwyd yr Americanwyr gan y cynllun hwn, ac o fewn ychydig fisoedd daeth dau o brif wyddonwyr Ewrop at ei gilydd, sef Edoardo Amaldi a Pierre Auger, i drafod gweithio ar y cyd a sefydlu asiantaeth Ewropeaidd. Gwahoddwyd wyth gwladwriaeth i'r cyfarfod. Sefydlwyd dwy asiantaeth: ELDO (European Launch Development Organization) ac ESRO (European Space Agency) ar 20 Mawrth 1964. Rhwng 1968 a 1972 lawnsiodd ESRO 7 lloeren.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "ESA Budget for 2013". esa.int. 24 Ionawr 2013.