Zürich
Oddi ar Wicipedia
Zürich yw dinas fwyaf y Swisdir a phrifddinas canton Zürich. Yn 2007 roedd poblogaeth y ddinas yn 376,815, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,007,972.
Enw'r ddinas yn y cyfnod Rhufeinig oedd "Turicum". Datblygodd fel safle ar gyfer casglu trethi ar y ffîn rhwng Gallia Belgica (o 90 OC ymlaen, Germania Superior) a Raetia ar nwyddau a gludid ar hyd afon Limmat.
Yn Zürich y mae cyfnnewidfa stoc y Swisdir, ac mae'r ddinas yn un o ganolfannau bancio pwysicaf y byd.

