Solothurn (dinas)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen ddinas Solothurn, o'r ochr draw i afon Aare

Dinas yng ngogledd-orllewin y Swistir a phrifddinas canton Solothurn yw Solothurn. Saif 35 km i'r gogledd o Bern, wrth droed mynyddoedd y Jura. Mae afon Emme yn ymuno ag afon Aare gerllaw'r ddinas.

Sefydlwyd Solothurn yn y cyfnod Rhufeinig fel Salodurum. Yn ddiweddarach, daeth yn eiddo teyrnas Bwrgwyn, yna'n eiddo tylwyth Zähringen. Ymunodd a'r conffederasiwn Swisaidd yn 1481.

Mae Solothurn yn enwog am ei phensaernïaeth faroc. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 15,137.