Schwerin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Schweriner Schloss, senedd talaith Mecklenburg-Vorpommern.

Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Mecklenburg-Vorpommern yw Schwerin. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 96,542.

Saif Schwerin mewn ardal o lynnoedd, gyda'r mwyaf, y Schweriner See, yn 60 km² o arwynebedd. Yn yr 11eg ganrif, roedd yr Obotrites yn preswylio yma. Gorchfygwyd hwy gan Henri y Llew yn 1160, a gipiodd Schwerin. Yn 1358 daeth yn rhan o Ddugiaeth Mecklenburg, ac yn brifddinas y ddugiaeth. Yn ddiweddarach, daeth yn brifddinas Dugiaeth Mecklenburg-Schwerin.

Y prif atyniad i ymwelwyr yw Castell Shwerin (Schweriner Schloss) at ynys yn y Schweriner See. Yma y mae senedd talaith Mecklenburg-Vorpommern.